Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

Cofnodion

Dydd Llun 22 Ionawr 2024, 10:00-11:30

Microsoft Teams

 

Yn bresennol: Mark Isherwood AS (Cadeirydd), Tim Nicholls (Ysgrifennydd), Julie Morgan AS, Sian Lewis, Julie Annetts, Aoife Pryor, Hefin David AS, Samantha Lambert-Worgan, Jeffrey Morris, John Price, Kae Fairhill, Bill Fawcett, Chad Rickard, Jillian Purvis, Amy Gray, Alexander Still, Nigel Morgan, Ruth Parness, Julie Meese, Kerrie Hopwood, Kate Thomas, Sian Owen, Miriam Wood, Samantha Williams, Rob Kirby, Kyle Eldridge, Kara Monkiewicz, Nick Davies, Victoria Morgan-Beattie, Rhiant A, Sion Edwards, Joanne Crawford, Jessica Webb, Catherine Dyer, Denise McKernan

 

Ymddiheuriadau: Janet Finch-Saunders AS

 

 

1.    Croeso

 

Croesawodd Mark Isherwood AS bawb i gyfarfod Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth y Senedd.

 

2.    Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cafodd y penderfyniad i gytuno bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth a gynhaliwyd ar 28 Medi yn adlewyrchiad cywir o’r drafodaeth ei ohirio tan y cyfarfod nesaf.

 

3.    Cyflwyno'r Dirprwy Weinidog

 

Rhoddodd MI drosolwg o themâu’r cyfarfod cyn cyflwyno Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd JM fod y ddadl a arweiniwyd gan MI yn y Senedd ar fai rhieni a phroffil awtistiaeth osgoi galw patholegol (4 Hydref 2023) wedi codi materion yr oedd am glywed amdanynt yn uniongyrchol. Cyflwynodd JM dri swyddog a oedd hefyd yn bresennol: Sian Lewis, Julie Annetts ac Aoife Pryor.

 

Ychwanegodd JM y byddai'n rhaid iddi adael y cyfarfod yn gynnar, ond y byddai'r tri swyddog yn aros ar ei rhan i wrando ar y materion a oedd yn codi yn ystod y drafodaeth.

 

4.    Sesiwn holi ac ateb gyda’r Dirprwy Weinidog

 

Clywodd JM gan nifer o bobl a oedd yn bresennol y cyfarfod a rannodd eu profiadau o'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Codwyd nifer o themâu a materion allweddol gan gyfranogwyr.

 

Rhannodd cyfranogwyr deimladau o gael eu targedu gan staff mewn gwasanaethau, a dywedodd un ohonynt fod hyn wedi effeithio ar ei allu i deimlo’n ddiogel yng Nghymru. Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi cael eu beio’n fwriadol fel rhieni a nodwyd ei bod yn ymddangos bod yr agwedd hon wedi’i hanelu at famau yn benodol. Disgrifiodd rhai cyfranogwyr hefyd pa mor niweidiol y bu hyn, a sut y mae’r profiadau a drafodwyd wedi peryglu gwarchodaeth eu plant. Disgrifiodd un cyfranogwr ei brofiad gyda gwasanaethau fel un o elyniaeth a rhagfarn.

 

Soniodd y cyfranogwyr am ddiffyg hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ymhlith staff gwasanaethau awtistiaeth a gwrthwynebiad i dderbyn diagnosis o awtistiaeth. Mewn un achos, dywedodd un cyfranogwr nad oedd y Bwrdd Iechyd lleol wedi derbyn diagnosis, a oedd yn golygu nad oedd yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir, gan deimlo wedi’i ynysu o ganlyniad i hynny. Dywedodd cyfranogwr arall fod gwasanaethau wedi diystyru problemau cyfathrebu ei blentyn yn barhaus, er gwaethaf diagnosis o awtistiaeth.

 

Soniodd nifer o’r bobl a oedd yn bresennol am y broses o gadw cofnodion, a nodwyd bod problemau ac anghysondebau yn codi o ran gweinyddiaeth a sut y caiff gwybodaeth ei chofnodi. Disgrifiwyd teimladau o fod wedi’u hanwybyddu neu eu bygwth wrth ofyn i wybodaeth gael ei chywiro. Mewn un achos, nododd cyfranogwr y bu problemau o ran sut roedd ei diagnosis wedi’i gofnodi, gan olygu nad oedd y diagnosis hwn wedi’i gydnabod. Dywedodd un cyfranogwr ei bod yn ymddangos bod gwallau gweinyddol wedi gwaethygu ers y pandemig a’i fod bellach yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at wybodaeth am ei blentyn, er gwaethaf y ffaith bod ganddo atwrneiaeth dros iechyd a lles.

 

Cododd sawl aelod o’r grŵp ddiffyg gwasanaethau eiriolaeth a mynediad annigonol at y gwasanaethau hyn, yn ogystal â rhwystrau rhag cael mynediad at fathau eraill o gymorth. Roedd hyn yn cynnwys mynediad annigonol at gymorth cyfreithiol ac at weithwyr cymdeithasol ym maes anabledd. Nododd un cyfranogwr nad oedd yn gallu cael mynediad at gymorth gan weithiwr cymdeithasol ym maes anabledd oherwydd bod ei awdurdod lleol wedi nodi bod yn rhaid i blentyn fod ag anabledd dysgu dwys i fod yn gymwys.

 

5.    Ymateb gan y Dirprwy Weinidog

 

Diolchodd JM i bawb a oedd yn bresennol a thynnodd sylw at bwysigrwydd rhannu profiadau yn y modd hwn. Er na all y Llywodraeth ymyrryd mewn achosion unigol, dywedodd JM y gellid edrych ar y pwyntiau cyffredinol a godwyd a’u dwyn ymlaen. Dywedodd y byddai'n mynd ar drywydd hyn gyda'r cyfranogwyr perthnasol.

Nododd JM hefyd fod y Llywodraeth wedi bod yn rhoi arian i ddatblygu gwasanaethau niwroddatblygiadol ar sail profiad ac y bydd hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar god ymarfer newydd ar gyfer niwrowahaniaeth.

 

Gadawodd JM y cyfarfod ar ôl iddi rannu ei hymateb.

 

6.    Trafodaeth yn parhau

 

Dywedodd Hefin David, Aelod o’r Senedd dros Gaerffili, ei fod wedi meithrin cysylltiadau â’i awdurdod lleol a’i fod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw. Dywedodd fod hyn wedi arwain at welliannau, gan gynnwys cefnogaeth i blant awtistig mewn ysgolion prif ffrwd. Dywedodd HD y gallai MI ac yntau gydweithio i godi ymwybyddiaeth o’r materion perthnasol ymhlith Aelodau o’r Senedd ac awgrymodd y dylid anfon llythyr at y Dirprwy Weinidog.

 

Yn dilyn hyn, trafodwyd hyfforddiant annigonol i staff addysg a materion parhaus o ran dealltwriaeth athrawon o awtistiaeth a niwrowahaniaeth.

 

Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn cytuno bod diffyg atebolrwydd ynghylch y materion a godwyd. Nododd sawl cyfranogwr fod problemau penodol yn codi yng Nghyngor Sir y Fflint. Dywedodd rhai ohonynt eu bod yn awyddus i weld ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i safonau ymarfer yn Sir y Fflint.

 

Roedd gan un cyfranogwr gwestiwn am Wasanaethau Allgymorth y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yng Nghaerdydd. Dywedodd TN y byddai'n dod o hyd i ragor o wybodaeth am y mater hwn ac yn anfon e-bost at y cyfranogwr perthnasol yn uniongyrchol.

 

7.    Unrhyw fusnes arall a sylwadau i gloi

 

Amlinellodd Tim Nicholls y camau gweithredu a oedd yn deillio o'r cyfarfod. Roedd y camau gweithredu hyn yn cynnwys gohebu â’r Dirprwy Weinidog ynghylch ymchwiliad posibl i arferion gwaith yn Sir y Fflint a chyfarfod ychwanegol ar gyfer unigolion sy’n rhannu profiadau.

 

Cadarnhaodd Julie Annetts y bydd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi ymateb ysgrifenedig i’r materion a drafodwyd yn ystod y cyfarfod. Tynnodd TN sylw at y pwyntiau a godwyd am atebolrwydd lleol a gofynnodd i’r mater hwnnw gael ei nodi yn ymateb y Dirprwy Weinidog.

 

Gorffennodd MI drwy ddiolch i bawb a oedd yn bresennol, gan roi sicrwydd i’r aelodau y byddai’r materion a godwyd yn ystod y cyfarfod yn parhau i gael eu dwyn ymlaen.